Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 25 Mawrth 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.02 - 12.10 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies AC (Cadeirydd) Peter Black AC Christine Chapman AC Mike Hedges AC Alun Ffred Jones AC Ann Jones AC Julie Morgan AC Nick Ramsay AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Georgina Haarhoff, Llywodraeth Cymru Sarah Tully, Llywodraeth Cymru Bethan Davies, Llywodraeth Cymru Leighton Andrews AC, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Gareth Thomas, Llywodraeth Cymru Clare Smith, Llywodraeth Cymru Nick Bennett, Ombwdsmon Cymru Cyhoeddus Cymru in Welsh Susan Hudson, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu Katrin Shaw, Public Service Ombudsman for Wales Office |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Richard Bettley (Ymchwilydd) Helen Jones (Ymchwilydd) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Papur briffio ffeithiol gan Lywodraeth Cymru ar Dreth Tirlenwi
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafodd y Pwyllgor bapur briffio ffeithiol gan Lywodraeth Cymru ar Dreth Tirlenwi.
1.3 Gofynnodd yr Aelodau am y wybodaeth ychwanegol ganlynol:
· rhestr o wastraff cymwys;
· rhestr o safleoedd tirlenwi awdurdodau lleol; a
· rhestr o’r 191 o gyrff Amgylcheddol a chyrff Dosbarthu Amgylcheddol sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru.
2 Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): Ystyriaeth gychwynnol
2.1 Ystyriodd y Pwyllgor oblygiadau ariannol y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru), a chytunodd i wahodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’r cyfarfod ar gyfer gofyn rhagor o gwestiynau iddo.
3 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
3.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
5 Bil Llywodraeth Leol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 1
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru).
5.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu i’r Pwyllgor:
· unrhyw amcangyfrifon o gostau a geir yn yr achosion a gyflwynwyd iddo gan y chwe awdurdod lleol ar gyfer uno gwirfoddol;
· eglurhad ynghylch a oes gan Lywodraeth Cymru y pŵer i uno cronfeydd pensiwn, a gwybodaeth ynghylch a oes rheolau penodol o ran cronfeydd pensiwn llywodraeth leol; ac
· adroddiad y Comisiwn Staff blaenorol (a gyhoeddwyd ym mis Medi 1996 o bosibl) mewn perthynas ag uno blaenorol.
6 Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Sesiwn dystiolaeth 12
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
8 Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Y Prif Faterion
8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y prif faterion yn ei ymchwiliad i Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.